Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003, ISBN 0110907019. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a drosglwyddwyd gan adran 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], a pharagraff 22(1) o Atodlen 5B i'r Ddeddf honno, ac sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], ac ar ôl cynnal ymgynghoriad llawn mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion sydd i'w trosglwyddo, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) sydd wedi cael cynnig swydd gyflogedig gyda Bwrdd Iechyd Lleol a bennir yng Ngholofn (2) o'r Atodlen, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol â'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
Trosglwyddo cyflogeion Awdurdodau Iechyd i Fyrddau Iechyd Lleol
(b) nad yw ei gontract cyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw wedi terfynu cyn y dyddiad diswyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); ac (c) y datganwyd ei fod wedi'i ddiswyddo o'i swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn afreidiol ar unrhyw adeg rhwng y dyddiad trosglwyddo a 31 Mawrth 2004.
(2) Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan baragraff 22(1) o Atodlen 5B i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49) ac adran 126(1) a (4) o'r Ddeddf honno, fel y'i diwygiwyd gan adrannau 6(1), (2) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y p er i drosglwyddo, i Fwrdd Iechyd Lleol, a hynny drwy orchymyn, unrhyw gyflogeion unrhyw Awdurdod Iechyd neu ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n ateb y disgrifiad penodedig.Mae'r Gorchymyn yn trosglwyddo (erthygl 3) staff y pum Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 (OS 1996/146), ac eithrio'r staff hynny a drosglwyddir o dan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/813, (Cy.98)), i'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, (Cy.18)). Mae'r Gorchymyn hefyd yn trosglwyddo (erthygl 4) staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992 (O.S. 1992/2741) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Os caiff unrhyw staff sy'n cael eu trosglwyddo i Fyrddau Iechyd Lleol o dan erthyglau 3 neu 4 eu diswyddo yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dilyn y dyddiad trosglwyddo, byddant yn cael eu trosglwyddo (erthygl 5) i'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig. Drwy'r Cynllun hwn gwneir ymdrech i gael swydd iddynt gydag un o gyflogwyr eraill y gwasanaeth iechyd neu gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru Yn unol â'r gofynion ym mharagraff 22(3) o Atodlen 5B gwneir y Gorchymyn hwn yn sgil cydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodwyd ynghylch ymgynghori mewn perthynas â phob un o'r cyflogeion a drosglwyddir. Mae'r darpariaethau ym mharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 5B, i'r graddau y maent yn berthnasol, yn gymwys i'r cyflogeion a drosglwyddir o dan y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlen 4 iddi.back [2] Mewn perthynas ag a.126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), o'i darllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002. Mae'r pwerau eraill y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud odanynt wedi'u rhoi'n uniongyrchol i'r Cynulliad.back [4] (O.S. 2003/148, (Cy 18).back [5] Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) - gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (OS 2003/148, Cy. 18).back [6] O.S. 2003/813, Cy. 98).back
ISBN 0 11090701 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 April 2003 |