Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003, ISBN 011090737X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 101(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002[1]. Enw a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003. (2) Mae'r Erthygl hon ac Erthygl 2(1) a (2), o'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Medi 2003. (3) Mae Erthygl 2(3) yn dod i rym ar 1 Medi 2004. Diwygio Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 2. - (1) Caiff Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 ei diwygio fel a ganlyn. (2) Ar ôl paragraff (b) mewnosodir -
(3) Ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir yn unol â pharagraff (2)) mewnosodir -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol sy'n cwmpasu addysg grefyddol, y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac addysg rhyw. Mae is-adran (3) yn galluogi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Gorchymyn sy'n diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach. Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi'i wneud o dan is-adran (3), yn ychwanegu dau ofyniad newydd at y cwricwlwm sylfaenol. Mae'r cyntaf, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol. Mae'r ail, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2004, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg gysylltiedig â gwaith i ddisgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar (disgyblion 14 - 16 oed yn fras). Wrth addysgu plant mewn addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith mae'n rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol - gweler adran 100(8) o'r Ddeddf. Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau yng Nghylchlythyr cccc 13/2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru "Addysg Bersonal a Chymdeithasol ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith yn y Cyricwlwm Sylfaenol". Gellir cael copïau o Is-adran Safonau a Pherfformiad y Cynulliad a gellir eu gweld ar dysgu.cymru.gov.uk. Notes: [1] 2002 p.32.back
ISBN 0 11090737 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 May 2003 |